Croeso i Gapel y Morfa

ac Ebeneser, Penparcau


Bedydd Rhys


 (c) Capel y Morfa, Aberystwyth

Roedd na fedydd yng Nghapel y Morfa bore Sul, 2 Tachwedd. Nid yn aml yr ydych yn gweld yr un sydd i’w fedyddio yn cropian yn hapus braf ym mlaen y capel wrth i Eifion drafod arwyddocad y bedydd. Ond dyna oedd Rhys wedi benderfynu ei wneud – mae’n amlwg ei fod yn teimlo’n gartrefol yn y capel yn barod. A dyna bwyslais neges Eifion, tu hwnt i’r iaith ddiwinyddol am gyfamod gras mae’r bedydd yn ffordd o groesawu Rhys i deulu’r eglwys. Roedd Robert a Sioned, rhieni Rhys ac Osian yn gwneud addewidion fel yr oedd y rhieni bedydd a’r gynulleidfa, addewidion am fagwraeth ac am gyflwyno Rhys i’r Iesu. Roedd pawb yn cael y fraint o fod nid yn unig yn dystion i gychwyn taith Rhys ond hefyd yn rhan o’i daith.
Pwysleisiodd Eifion y fraint mae’n gael o fedyddio plentyn, ond eto mae’n poeni weithiau am yr addewidion – tybed a oedd y cyfan wedi ei esbonio yn ddigon eglur? Adroddodd hanes bedydd mewn capel gwledig a’r fam fedydd yn hwyr yn cyrraedd, yn wir wedi colli’r gwasanaeth, ac ar gais y fam yn y gegin yn eu cartref dyma fynd drwy'r addewidion eto. Ar un ystyr efallai fod mwy o ysytyr yn yr addewidion yna gan eu bod mor bwysig iddi. Ond roedd ambell weinidog yn gwgu gan fod y sacrament wedi digwydd yn y capel. Rhaid i’r cyfan fod yn ystyriol a didwyll, gellir sôn am gyfamod a gras ond efallai mai peth gwell yw sôn am Dduw yn gwahodd a denu pobl ato fo – Duw yn rhoi bod i fywyd ym mywyd Rhys. Bydd hyn yn digwydd yng nghanol teulu yr eglwys er nad ydym yn deall beth sy’n digwydd na sut mae’n digwydd. Mae cariad Duw yn cael ei roi i ni ac mae Rhys wedi cychwyn taith a thrwy’r bedydd mae gan aelodau capel y Morfa ran yn y daith yn esiampl o gariad Crist ac
 (c) Capel y Morfa, Aberystwyth

yn gwmni iddo. Ond mae na bresenoldeb Dwyfol uniongyrchol yn y daith hefyd a byddwn yn gweddio y bydd Rhys yn dod yn ymwybodol ohono. Bydd fel goleuni iddo yng nghanol pob tywyllwch, goleuni all ymddangos yn sydyn a rhyfeddol o rhywle, a dyna arwyddocad y tric goleuni a gyflawnodd Dafydd ac Anna (plant Eifion). Cyfaddefodd Eifion nad yw’n ddewin o unrhyw fath ond mae Dafydd ac Anna yn fwy na thebol gyda sioe oedd yn denu’r plant hynaf a’r ieuengaf yn y capel, roedd na olau yn ymddangos o bob cyfeiriad, symbol o oleuni rhyfeddol Crist all oleuo yn y mannau mwyaf anhebygol.

Pob bendith i Robert, Sioned, Osian ac wrth gwrs Rhys Bryn.



Diolch, diolch yw ein cân



Y bocs oedd thema y gwasanaeth diolchgarwch eleni – a hynny wrth i’r Ysgol Sul annog anfon bocsys yn llawn nwyddau at blant yn llai ffodus ‘na nhw. Mae gan y rhan fwyaf ohonom lawer gormod o focsys – a methwn ddod o hyd i bethau yn aml ond nid yw fel hynny ar bawb. Mae eiddo rhai sy’n byw ar y pafin yn gallu ffitio mewn i focs a dyna yn aml yw ei gartref.

Bocs pinc oedd gan y plant lleiaf ac mi gawsont lot o hwyl yn tynnu trugareddau allan o’r bocs a diolch amdanynt. Fe ddaethont allan yn un rhes – anifeiliaid mawr, anifeiliaid bach, blodau hardd, ffrwythau, llysiau, haul heb sôn am Adda ac Efa. Bu’r dosbarthiadau hefyd yn diolch – gan werthfawrogi pethau megis jiraff, llewod, pili pala a chlywyd nifer o adnodau oedd yn cyfeirio at ddiolch a rhannu.

 (c) Capel y Morfa, Aberystwyth

Criw y gegin

Braf oedd clywed fod y cyfraniadau at Apêl Dŵr Ethiopia wedi croesi’r mil o bunnau a bu’r dosbarth ieuenctid yn portreadu faint o ddŵr glân a fyddai hynny yn ei brynu drwy smalio taflu bwcedi o ddŵr at y gynulleidfa – rwy’n siwr fod nifer yn falch mai papur wedi’i falu oedd yn y bwcedi! Pwysleisiodd Eifion yr angen i ddiolch am ein bwyd hyd yn oed os mai ysgewyll, aubergine, pwdin reis (rhai o gas fwyd y plant ac Eifion!) oedd ar y plat.
Daeth nifer fawr o’r plant lleiaf â ffrwythau i’r ford yn y blaen – fe fydd y cynnyrch yn cael ei ddosbarthu gan ymwelwyr y Morfa. Ar ôl y gwasanaeth cafwyd gwledd o gawl yn y Morlan – nid cawl traddodiadol yn unig ond cawl blas moron ac oren, tatws melys, tomato a brenhinllys – i enwi ond rhai! Canmil diolch i’r masterchef Rhys a’i dîm. Diolch hefyd i’r rhai a fu’n addurno’r capel fore Sadwrn.


Gwledd yn wir!



Heb os y lle gorau am fwyd nos Lun, Hydref 13 oedd festri’r Morfa wrth i’r gymdeithas gael ei swper diolchgarwch. Roedd y byrddau o bob lliw a llun, yn llawn o ddanteithion sawrus a melys ac yn brawf bod y cynhaeaf eleni eto wedi bod yn un ffrwythlon. Huw Owen yw’r cadeirydd y tymor hwn ac wrth gyflwyno y gŵr gwadd sef Ifan Gruffydd, Tregaron cyfeiriodd at ei ddyddiau mebyd yn Cross Hands lle rhoddid darn o lo yng nghanol y cynnyrch fel symbol o’r hyn a gafwyd. Neithiwr dyn o’r wlad oedd y canolbwynt ac nid oes lle llawer mwy gwledig nac anghysbell na Chefnresgair, Tregaron – cartref y diddanwr.

 (c) Capel y Morfa, Aberystwyth


Cafwyd danteithion amrywiol ganddo ef hefyd - wrth i rywun fynd yn hŷn, meddai Ifan, cynyddu mae’r atgofion. Rhannodd atgofion difyr am Aberystwyth ac am ei gartref anghysbell pryd oedd cael trydan, tap dwr, ffôn a ‘rayburn’ yn beth mawr. Doedd e chwaith ddim yn brin o jôcs – nifer ohonynt am bregethwyr a chwarae teg i Eifion am chwerthin ar ben yr hanesyn am y ddynes honno oedd yn cwyno fod y pregethwyr a ddeuai’n weinidgoion ar ei chapel yn gwaethygu bob tro! Mi gafodd Ifan ei eni yn Aberystwyth, bu’n lwcus iawn o’r ysbyty yn ystod ei waeledd ond hwyrach mai yn BakerStreet y cafodd y profiad mwyaf. Mae’n cofio, fel ddoe, mynd i wrando ar Dr Martin Lloyd Jones, yn wreiddiol o Langeitho, a’r modd yr atebodd hwnnw nifer o’r cwestiynau allweddol a oedd gan Ifan ynghylch crefydd pan yn ei ugeiniau. Nid yw’n rhyfedd felly ei fod wedi gwneud cymant dros yr achos yn ysgoldy Rhiwdywyll a’i fod bellach yn flaenor yng nghapel Bwlchgwynt, Tregaron.

Aeth pawb adref yn hapus wedi cael gwledd o fwyd ac hanesion. Yn goron ar y cyfan roedd buddugoliaeth tîm pêl-droed Cymru yn erbyn Cyprus yng Nghaerdydd.









Y mae Capel y Morfa yn eglwys groesawgar a chynnes yng nghanol tref Aberystwyth. Mae’n cynnal amrywiaeth o wasanaethau a chyfarfodydd ar y Sul ac yn ystod yr wythnos. Ym mis Awst byddwn yn cyd-addoli ag eglwysi Cymraeg eraill y dref. Rydym yn hapus i groesawu ymwelwyr a chyfeillion o bob oed i gyd-addoli ac i ymuno â ni mewn cyfarfodydd yn y capel ac yng Nghanolfan Morlan.

Lleolir y capel ym Maes y Frenhines, Aberystwyth, ar gyffordd Heol Portland (Portland Street) a Morfa Mawr (Queen's Road),gyferbyn â hen Neuadd y Dref (adeilad newydd Llyfrgell y Dref). I weld map, cliciwch yma.

Lleolir y gangen, Ebeneser, ar Ffordd Penparcau. I weld map, cliciwch yma

Os cewch anawsterau wrth ddefnyddio'r wefan hon, neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau neu ddeunydd yr hoffech ei gynnwys ar y wefan, cysylltwch â ni.


Cynulleidfa y capel

Cynulleidfa y capel


Newyddion
Siom mwy...
Dathlu chwarter canrif mwy...
Eglwys yr Alban a'r refferendwm mwy...

Digwyddiadur
30 Tachwedd: Gwasanaethau manylion
07 Rhagfyr: Gwasanaethau manylion
14 Rhagfyr: Gwasanaethau manylion
21 Rhagfyr: Gwasanaethau manylion
25 Rhagfyr: Gwasanaeth Nadolig manylion

Amserau Cyfarfodydd y Sul

Oedfa’r bore am 10.00
Ysgol Sul y plant yn ystod oedfa’r bore
Ysgol Sul yr oedolion ar ôl oedfa’r bore
Oedfa’r prynhawn am 2.15 yn Ebeneser
Oedfa’r nos am 5.00 ddiwedd Hydref-ddiwedd Mawrth; am 6.00 ddiwedd Mawrth-ddiwedd Hydref

Gweler Digwyddiadur am wybodaeth am gyfarfodydd eraill

Teitl yma

Teitl yma



Dylunio a datblygiad y wefan: Technoleg Taliesin Cyf.

Administration